Pigion: Highlights For Welsh Learners

Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 22ain 2023

Informações:

Synopsis

Pigion Dysgwyr – Hiraethog Mae yna ymgyrch ymlaen ar hyn o bryd gan Twristiaeth Gogledd Cymru i ddenu ymwelwyr i ardal Hiraethog yng ngogledd Cymru. Sara Gibson oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes wythnos diwetha wrth i Aled gymryd gwyliau bach ar ôl yr Eisteddfod. Dyma Eifion Jones o Lansannan, yn siarad â Sara am yr ardal arbennig hon Ymgyrch Campaign Denu To attract Ywen Yew Cynaliadwy Sustainable Murluniau Murals Cerflun Statue Taflunydd Projector Pererinion Pilgrims Treffynnon Holywell Pigion Dysgwyr – Brechu Disgrifiad o ardal Hiraethog yn fanna gan Eifion Jones. Gyda’r sôn bod straen newydd o Covid wedi ymddangos cafodd Beti George sgwrs ar Beti a’i Phobol gyda meddyg teulu ddaeth i amlygrwydd ar ddechrau’r pandemig. Chwaraeodd Dr Eilir Hughes ran bwysig wrth geisio rheoli Covid-19 yn ei gymuned. Cafodd ei enwebu am ei waith ar gyfer un o wobrau Dewi Sant a dyma Beti yn ei holi … Amlygrwydd Prominance Enwebu To nominate Sefydlu To es