Pigion: Highlights For Welsh Learners

Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 12fed 2023

Informações:

Synopsis

Pigion Dysgwyr - Gruffydd Vistrup Parry Mae Gruffydd Vistrup Parry yn byw yn Nenmarc sydd, yn ôl yr ystadegau, y wlad leia “stressful” yn Ewrob. Dyma Gruffydd i sôn mwy am y rhesymau symudodd e i’r wlad yn y lle cynta ar raglen Bore Cothi wythnos diwetha…. Ystadegau Statistics Calon Heart Ymchwil Research Perthynas Relationship Pigion Dysgwyr - Y Meddyg Rygbi Ac mae Gruffudd yn swnio’n hapus iawn gyda’i benderfyniad i symud i Ddenmarc on’d yw e? Dw i’n siŵr eich bod wedi sylwi bod Cwpan Rygbi’r Byd newydd ddechrau gyda’r gêm agoriadol rhwng Ffrainc a Seland Newydd. Mae Dewi Llwyd wedi bod yn dilyn Dr Gareth Jones, un o'r meddygon sy'n delio â'r nifer cynyddol o anafiadau ym myd rygbi. Enw’r rhaglen yw Y Meddyg Rygbi ac mae’r rhaglen gyfan i’w chlywed ar BBC Sounds wrth gwrs, ond dyma Gareth Jones yn sôn mwy am ei waith Nifer cynyddol Increasing number Fel petai So to say Sylweddoli To realise Curiad i’r pen Knock to the head Y Gweilch The Ospreys Pigio