Pigion: Highlights For Welsh Learners

Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 26ain 2023

Informações:

Synopsis

Pigion Dysgwyr – Y Wladfa Mae Llinos Howells o Ferthyr Tudful yn gweithio ar hyn o bryd yn y Wladfa, sef y rhan o‘r Ariannin ble mae siaradwyr Cymraeg yn byw. Yn ei gwaith bob dydd mae hi‘n dysgu Cymraeg i blant yr ysgolion lleol. Wythnos diwetha cafodd Aled Hughes gyfle i sgwrsio gyda hi i weld sut mae pethau‘n mynd hyd yn hyn... Yr Ariannin Argentina Union fis A month exactly Rhagbrofion Preliminary competition Llefaru Reciting Braint o feirniadu The honour of adjudicating Deng mlynedd ar hugain 30 years Cyngerdd mawreddog A grand concert Croesawgar Welcoming Twymgalon Warm-hearted Pigion Dysgwyr – Ann Evans Llinos Howells oedd honna’n brysur iawn yn y Wladfa, ond i weld yn mwynhau bob eiliad. Merch arall o Ferthyr sydd yn y clip nesa - Ann Evans, dorrodd record Cymru i ferched dros 65 oed yn Hanner Marathon Casnewydd fis Mawrth diwetha, ond sydd erbyn hyn wedi cyflawni camp arall. Bythefnos yn ôl roedd hi yn Kenya yn cymryd rhan mewn ras barodd bump o ddiwrnod