Pigion: Highlights For Welsh Learners

Podlediad Pigion y Dysgwyr y 12fed o Ragfyr 2023.

Informações:

Synopsis

Pigion 12fed Rhagfyr:1 Bore Coth:Pan oedd Shân Cothi yn darlledu o’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd yn ddiweddar, mi wnaeth hi gyfarfod â dwy fenyw, sef Francis Finney a Marcia Price. Roedd y ddwy wedi penderfynu dysgu Cymraeg, felly dyma eu gwahodd ar Fore Cothi am sgwrs:Darlledu Broadcasting Cancr y fron Breast cancer Diolch byth Thank goodness Dipyn bach yn iau A little bit younger2 Beti a’i Phobol:Francis a Marcia oedd y ddwy yna, ac mi roedden nhw wedi dysgu Cymraeg yn wych gyda Dysgu Cymraeg Gwent yn doedden nhw?Prif ganwr y band Edward H. Dafis, Cleif Harpwood, oedd gwestai Beti George nos Sul diwetha. Mae cwmni recordiau Sain newydd ryddhau casgliad o holl draciau’r band iconig hwn, er mwyn dathlu hanner can mlynedd ers iddyn nhw ffurfio. Yma mae Cleif yn sôn am ei ddyddiau efo’r bandiau Edward H Dafis ac Injaroc:Rhyddhau To release Cerddorion penna(f) Leading musicians Yn eitha disymwth Quite suddenly Y gynulleidfa The audience Arbrofi To experiment Atgas Obnoxious Y fath wawd Such