Pigion: Highlights For Welsh Learners

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 30ain o Ionawr 2024

Informações:

Synopsis

Pigion Dysgwyr – Arfon Jones Mae deiseb sy'n galw am ddefnyddio’r enw Cymru a Chymru'n unig ac i beidio â defnyddio'r enw 'Wales' wedi casglu dros un-deg un mil o lofnodion. Cyn-athro o Hen Golwyn ddechreuodd y ddeiseb a chafodd Rhodri Llywelyn sgwrs gydag Arfon Jones wythnos diwetha ar Dros Ginio. Deiseb PetitionLlofnodion SignaturesPrif Weithredwr Chief ExecutiveGwyrthiau MiraclesBras BoldTristwch SadnessCefnogwyr FansDigwyddiad EventPigion Dysgwyr – Siop Del Wel ie, tybed wnawn ni glywed y cefnogwyr yn gweiddi Cymru yn lle Wales yn y dyfodol. Cawn weld on’d ife? Nos Fawrth diwetha ar ei rhaglen cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Del Jones. Mae Del yn dod o Garn Fadryn ym Mhen Llŷn yn wreiddiol ond yn byw nawr yng Nghlynnog Fawr gyda’i phartner Math. Erbyn hyn mae hi wedi dilyn ei breuddwyd ac agor siop yng Nghricieth a hefyd mae hi‘n rhedeg gwasanaeth glanhau. Dyma Del yn esbonio y daith gymerodd hi ar ôl iddi hi adael ei swydd fel rheolwr gwesty…… Breuddwyd