Pigion: Highlights For Welsh Learners

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 6ed o Chwefror 2024

Informações:

Synopsis

Pigion Dysgwyr – Bethesda Buodd Aled Hughes yn ddiweddar yn Mynwent Tanysgrafell ym Methesda yng Ngwynedd. Mae’r fynwent wedi ei chau ers blynyddoedd ac wedi mynd yn flêr ac yn anniben ei golwg. Ond mae ‘na griw o wirfoddolwyr wedi bod yn ei thacluso ac yn gofalu amdani a dyma Sian Evans o Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd yn sgwrsio gydag Aled ac yn rhoi ychydig o hanes y fynwent.. Mynwent CemeteryYmddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd Gwynedd Archaeological TrustDdaru nhw Wnaethon nhwYmchwil ResearchDogfennau DocumentsOes Victoria Victorian AgeEhangu To expandBwriad IntentionStad ddiwydiannol Industrial Estate Pigion Dysgwyr – Robat ArwynYchydig o hanes Mynwent Tanysgrafell yn fanna ar raglen Aled Hughes. Mae ymchwil yn dangos bod cymryd rhan mewn gweithgareddau cerdd yn gallu helpu'r cof wrth i bobl fynd yn hŷn. Mae dau ddeg pum mil o bobl wedi bod yn rhan o astudiaeth ddangosodd bod gwell cof gan bobl oedd wedi bod yn chwarae offeryn neu oedd