Pigion: Highlights For Welsh Learners

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 20fed o Chwefror 2024

Informações:

Synopsis

Pigion Dysgwyr – Crempog Roedd hi’n Ddydd Mawrth Ynyd ddydd Mawrth diwetha a chafodd Shan Cothi gwmni Lisa Fearn, y gogyddes a’r awdures, ar ei rhaglen. Dyma Shan a Lisa yn sgwrsio am grempogau neu bancos!!!! Dydd Mawrth Ynyd Shrove TuesdayCrempogau/pancos PancakesPoblogaidd PopularIseldiroedd NetherlandsFfrimpan Padell ffrioBurum YeastDwlu ar Hoff iawn oGwead TextureTwym CynnesDodi Rhoi Pigion Dysgwyr – Cefn Shan Cothi a Lisa Fearn oedd y rheina’n sôn am y gwahanol mathau o grempogau sydd i’w cael. Dych chi'n cael problemau gyda'ch cefn? Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae bron i filiwn o bobl y Deyrnas Unedig yn dweud eu bod nhw'n rhy dost i weithio oherwydd poen yn eu cefnau. Cafodd Gwyn Loader, oedd yn cadw sedd Jennifer Jones yn dwym bnawn Mawrth, sgwrs gyda Fflur Roberts o Gaernarfon, sy'n ffisiotherapydd ers pymtheg mlynedd. Gofynnodd Gwyn iddi hi’n gynta oedd hi'n credu bod y nifer o bobl sy’n gweithio o gartre ers y pandemig wedi gwneu