Synopsis
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Episodes
-
Philippa Gibson
24/10/2021 Duration: 51minPhilippa Gibson sydd yn sgwrsio gyda Beti George, merch o Fryste sydd wedi setlo yn Llanrgannog ac yn gwneud llawer o waith yn ei chymuned. Mae hi hefyd yn fardd yn diwtor iaith ac yn blymar ac yn ymgyrchu dros newid hinsawdd.
-
Yr Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd.
13/09/2021 Duration: 47minCyn i'r Eisteddfod AmGen ddechrau, mae Beti George yn sgwrsio gyda'r Archdderwydd Myrddin Ap Dafydd am ei gefndir a'i ddylanwadau cynnar yn Llanrwst, ac am ei natur o fentergarwch.
-
Dylan Rhys Jones
12/09/2021 Duration: 50minBeti George yn sgwrsio gyda'r cyn-gyfreithiwr troseddol, Dylan Rhys Jones.Dylan yw awdur y llyfr "The Man in Black" sydd yn sôn am brofiadau Dylan o fod yn gyfreithiwr amddiffynnol i'r llofrudd Peter Moore ynghanol nawdegau'r ganrif ddiwethaf.
-
Andria Doherty
11/09/2021 Duration: 46minGwestai Beti George yw'r actores Andria Doherty, ddaeth i'r amlwg yn y gyfres "It's a Sin" fel y cymeriad Eileen Morris-Jones. Cawn ei hanes cynnar yng Nghwm Tawe ac am ei gwaith fel nyrs cyn i salwch ei tharo a golygu bod hi'n newid cyfeiriad o ran gyrfa.
-
D. L. Davies
10/09/2021 Duration: 49minBeti George yn sgwrsio gydag un o frodorion Cwm Cynon, yr hanesydd a'r athro Cymraeg, D. L. Davies. Cawn hanes ei blentyndod fel un o blant cyntaf yr Ysgol Gymraeg yn Aberdâr, a hefyd ei brofiad fel athro Cymraeg Ail Iaith am dros chwarter canrif yn Ysgol Uwchradd Afon Taf.
-
Llinos Medi Huws
10/09/2021 Duration: 49minGwestai Beti George yw Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Y Cynghorydd Llinos Medi Huws. Cawn gyfle i glywed am ei magwraeth ar fferm fach Ffleicws ger Llanddona, ac am gyfnodau heriol wrth iddi dyfu fyny.
-
Tomos Grace
10/09/2021 Duration: 49minBeti George yn sgwrsio â Tomos Grace, Pennaeth cynnwys Chwaraeon Youtube yn Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica.
-
Owain Fôn Williams
10/09/2021 Duration: 49minGwestai Beti George ar ddechrau Cystadleuaeth yr Ewro's yw'r gôl-geidwad ac un o garfan tîm llwyddiannus Cymru yn Ewros 2016, Owain Fôn Williams.
-
Paul Sambrook
10/09/2021 Duration: 50minGwestai Beti yr wythnos hon yw'r archeolegydd Paul Sambrook o Gastell-Nedd sydd yn sôn am ei fagwraeth yn y dre ac am gyfnod yng Nghanada, cyn darganfod y Gymraeg yn ei arddegau hwyr.
-
Maxine Hughes
10/09/2021 Duration: 48minGwestai Beti George yw'r newyddiadurwraig Maxine Hughes, o Gonwy yn wreiddiol ond nawr yn byw yn Washington DC. Cawn glywed am ei phrofiadau fel newyddiadurwraig yn Nhwrci ac yn gohebu ar farwolaeth George Floyd yn yr Unol Daleithiau.
-
Sara Yassine
10/09/2021 Duration: 48minFel rhan o Tafwyl, mae Beti George yn holi'r ferch ifanc o Gaerdydd Sara Yassine lle mae hi'n sôn am dyfu fyny fel merch Mwslemaidd Gymraeg yn y brifddinas.
-
Llinos Elin Owen
10/09/2021 Duration: 48minGwestai Beti yw'r baswnydd Llinos Elin Owen, sydd yn Brif Faswnydd i Symffonia'r Ballet Brenhinol yn Birmingham. Mae hi'n sôn am y ddamwain cafodd hi yn 2009 a newidiodd ei bywyd yn llwyr. Erbyn hyn mae hi'n ceufadu (kayaking) i dîm Paralympaidd Prydain.
-
Jên Angharad
27/05/2021 Duration: 49minY ddawnswraig egniol Jên Angharad yw gwestai Beti George. Mae hi'n son am ei chyflwyniad i'r iaith Gymraeg ac am ddylanwad anferthol ei hathrawes yn Ysgol Morgan Llwyd, Gwawr Davies tuag at y gyrfa mae hi'n dilyn heddiw.
-
Jeremy Vaughan, Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru
26/05/2021 Duration: 50minBeti George yn sgwrsio gyda Phrif Gwnstabl Heddlu De Cymru Jeremy Vaughan am ei fagwraeth yn Nolgellau, a'i yrfa yn yr heddlu. Mae hefyd yn trafod y gwaith mae wedi ei wneud yn hybu'r iaith Gymraeg gyda Heddlu De Cymru.
-
Rhys Patchell
25/05/2021 Duration: 50minBeti George yn sgwrsio gyda'r chwaraewr rygbi rhyngwladol Rhys Patchell, sy'n trafod ei ddylanwadau cynnar, a'i ddyfalbarhad a'i alluogodd i wireddu ei freuddwyd o gynrychioli ei wlad ar y maes rygbi.
-
Gerallt Pennant
24/05/2021 Duration: 47minUn o leisiau cyfarwydd Radio Cymru, Gerallt Pennant sy'n cadw cwmni i Beti George. Mae'n sôn am farwolaeth ei dad pan oedd e'n fachgen ifanc ac effaith hynny arno, yn ogystal â'i fagwraeth ym Mryncir, ble roedd ei rieni yn "cadw fisitors".
-
Y Parchedig John Gillibrand
24/05/2021 Duration: 50minY gwestai yw'r Parchedig John Gillibrand, ficer yn ardal Pontarddulais sydd wedi bod yn brwydro yn ddiweddar dros gael y brechlyn i'w fab Adam sydd yn awtistig. Mae John yn wreiddiol o ardal Manceinion ac yn sôn am ei gyfnod ym Mhrifysgol Rhydychen yn astudio Hanes cyn troi ei olygon at Gymru, Y Gymraeg a'r Eglwys.
-
Dr. Meinir Jones
24/05/2021 Duration: 51minBeti George yn sgwrsio gyda'r Dr. Meinir Jones sydd wedi bod yn brysur yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn gyfrifol am yr holl ysbytai maes ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda. Mae hi'n trafod ei magwraeth yn ardal Pontardawe, yn ogystal â'i phrofiadau fel meddyg yn Awstralia ac Ynysoedd Arran.
-
Mared Gwyn
24/05/2021 Duration: 50minYn cadw cwmni i Beti George mae'r Ymgynghorydd Cyfathrebu gyda chwmni BCW ym Mrwsel, Mared Gwyn. Mae hi'n sôn am ei chyfnod anodd ym Mhrifysgol Caergrawnt, ei hoffter o ddysgu ieithoedd ac o deithio, a sut mae ei gwaith fel ymgynghorydd cyfathrebu wedi newid yn ystod y Cyfnod Clo.